|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
|
![]() |

Mae pob cerddwr sy’n cymryd rhan yn y daith yn gwneud hynny ar ei risg ei hun. Ni dderbynnir cyfrifoldeb gan y trefnwyr na’r arweinydd(ion) os digwydd unrhyw golled neu ddamwain a /neu niwed i unrhyw un sy’n cymryd rhan, beth bynnag yw’r achos.
Rhaid i bob cerddwr gadw at y “Côd Cefn Gwlad” a “Rheolau’r Ffordd Fawr”.
Mae arweinydd y daith gerdded yn gyfrifol am bob penderfyniad sy’n ymwneud â’r daith e.e. yr hawl i newid neu ohirio’r daith ac hefyd yr hawl i wrthod mynd ag unrhyw un sydd heb ddarpariaeth briodol.
Mae disgwyl i gerddwyr wisgo esgidiau addas (gore oll gyda gafael cryf a chynhaliaeth pigwrn).
Awgrymir fod cerddwyr yn dod â (a chario hefyd ar y daith) y canlynol fel y lleiafrif angenrheidiol:
Dillad addas (gan gynnwys dillad cynnes a gwisg pen)
Dillad diddos
Dŵr a diod poeth
Lluniaeth wrth law/neu ar gyfer argyfwng
Awgrymir fod cerddwyr hefyd yn dod a dillad newid i’w gadael yn y modur cludo, hyd nes dychwelyd o’r daith. Dylai’r rhain gynnwys esgidiau glân ar gyfer y daith adref (rhag ofn gadael olion traed mwdlyd yn y modur!)
| Hafan | Rhaglen Deithiau | Categorïau Teithiau | Diogelwch Teithiau | Manylion y Pwyllgor | English |
| Walk Reports | Oriel Luniau | Dolenni Defnyddiol | Tiwtor GPS | Darganfod Taith | |
| Oes gennych chi sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer gwella'r wefan hon? Os felly, gadewch eich adborth yma. | |||||